Mae Dwayne Peel, cyn-fewnwr y Scarlets a Chymru, yn y ras ar gyfer swydd prif hyfforddwr y Gweilch, yn ôl adroddiadau.

Mae’r rhanbarth sydd wedi’i lleoli yn Stadiwm Liberty yn Abertawe yn chwilio am brif hyfforddwr newydd yn dilyn ymadawiad Allen Clarke dan gwmwl ym mis Tachwedd.

Mae Mike Ruddock, cyn-brif hyfforddwr Cymru, wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Perfformiad y rhanbarth tan ddiwedd y tymor.

Dim ond unwaith mae’r tîm wedi ennill y tymor hwn.

Mae Dwayne Peel bellach yn is-hyfforddwr gydag Ulster yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Milton Haig, Swys de Bruin, Felix Jones a Ben Herring hefyd yn cael eu cysylltu â’r swydd, ac mae lle i gredu bod y rhanbarth yn cynnal trafodaethau â hyfforddwr un o glybiau Uwch Gynghrair Gallagher yn Lloegr.