Mae canolwr tîm rygbi Cymru, Jamie Roberts yn symud o Gaerfaddon i glwb y Stormers yn Ne Affrica.

Bydd tymor y Stormers, sy’n chwarae yng nghynghrair Super Rugby, yn dechrau fis Chwefror ac felly mae Jamie Roberts wedi penderfynu terfynu ei gytundeb gyda Chaerfaddon yn gynnar er mwyn ymuno â’i glwb newydd.

Teithiodd i Dde Affrica gyntaf fel rhan o dîm Ysgol Glantaf yn 2003 ac roedd yn rhan o daith y Llewod i Dde Affrica yn 2009.

Mae yn ganolwr profiadol sydd wedi ennill 94 cap dros Gymru.