Gleision 16–12 Dreigiau

Y Gleision a aeth â hi wrth iddynt groesawu’r Dreigiau i Barc yr Arfau ar gyfer gêm ddarbi’r dwyrain yn y Guinness Pro14 brynhawn ddydd Gŵyl San Steffan.

Roedd cais cynnar Shane Lewis-Hughes a chicio cywir Jarrod Evans a Jason Tovey yn ddigon i’r tîm cartref mewn gêm agos.

Un munud ar ddeg a oedd ar y cloc pan groesodd Lewis-Hughes am gais cyntaf y gêm yn dilyn bylchiad gwych y maswr, Evans.

Llwyddodd Evans gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb i ymestyn mantais ei dîm i ddeg pwynt.

Gorffennodd y Dreigiau’r hanner yn gryf serch hynny gan gau’r bwlch gyda chais Taine Basham, y blaenasgellwr yn yn sgorio wedi sgarmes symudol.

Dechreuodd yr ymwelwyr yr ail hanner yn dda hefyd ac roeddynt ar y blaen o fewn deg munud. Ar ôl sgorio’r cyntaf, rhyng-gipiad Basham a greodd hwn i Matthew Screech, 10-12 y sgôr wedi trosiad Sam Davies.

Ond dechreuodd y Gleision adfer rheolaeth o’r gêm yn raddol ac roedd cic gosb yr un gan Evans a Jason Tovey yn yr hanner awr olaf yn ddigon i ennill y gêm i’r tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn bumed yn nhabl adran B y Pro14 a’r Dreigiau yn bumed yn adran A.

.

Gleision

Cais: Shane Lewis-Hughes 11’

Trosiad: Jarrod Evans 11’

Ciciau Cosb: Jarrod Evans 32’, 50’, Jason Tovey 69’

.

Dreigiau

Ceisiau: Taine Basham 39’, Matthew Screech 46’

Trosiad: Sam Davies 47’

Cerdyn Melyn: Ashton Hewitt 71’