Racing 92 40–27 Gweilch

Colli fu hanes y Gweilch wrth iddynt deithio i’r Paris La Defensa Arena i wynebu Racing 92 yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop nos Wener.

Aeth y tîm cartref â’r gêm o afael y Gweilch yn yr hanner cyntaf cyn i’r Cymry ymateb yn dda i hawlio pwynt bonws gyda phedwar cais yn yr ail hanner.

Er i’r Gweilch gychwyn yn dda gyda chais cynnar Luke Morgan, fe ymatebodd Racing mewn steil gyda phedwar cais cyn yr egwyl.

Cafodd Marty McKenzie hanner i’w anghofio yn safle’r maswr i’r Gweilch, arweiniodd cic wael ganddo at gais i Louis Dupichot cyn i’w bas gael ei rhyng-gipio gan Juan Imhoff am ail y Ffrancwyr.

Imhoff a sgoriodd y trydydd hefyd yn dilyn gwaith da Ben Volavola a Dupichot, cyn i Simon Zebo sicrhau’r pwynt bonws cyn yr egwyl.

Ymestynnodd Racing eu mantais gyda dau gais arall yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner, un yr un i Georges Colombe a Yoan Tanga.

Tynnodd y tîm cartref y droed oddi ar y sbardun wedi hynny gan adael i’r Gweilch reoli chwarter olaf y gêm.

Croesodd y Cymry am bedwar cais, dau i Lesley Klim ac un yr un i Luke Price a Shaun Venter. Cais Price a oedd yr uchafbwynt, yr eilydd faswr yn gorffen yn dilyn gwaith gwych Tom Williams.

Rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi wrth gwrs gyda’r Ffrancwyr yn dael eu gafael ar fantais gyfforddus i ennill o 40 pwynt i 27.

Mae’r Gweilch yn aros ar waelod grŵp 4 ar ôl eu pwynt bonws ym Mharis, eu pwynt cyntaf yn y grŵp ar ôl pedair gêm.

.

Racing 92

Ceisiau: Louis Dupichot 11’, Juan Imhoff 14’, 25’, Simon Zebo 39’, Georges Colombe 49’, Yoan Tanga 54’

Trosiadau: Maxime Machenaud 15’, 26’, 39’, 50’, 55’

.

Gweilch

Ceisiau: Luke Morgan 8’, Lesley Klim 57’, 58’, Luke Price 68’, Shaun Venter 72’

Trosiad: Luke Price 58’