Mae cyn-seren rygbi Cymru Gareth Thomas yn bwriadu beicio am 500 milltir er mwyn codi arian at elusen Sport Relief.

Cyhoeddodd Gareth Thomas ei fod yn HIV positif fis Medi eleni ac mae wedi derbyn canmoliaeth am leihau’r stigma ynghylch y firws.

Cafodd ei alw’n “arwr” wedi iddo gyfaddef ei fod yn cario’r firws yn ogystal â derbyn broliant gan arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn a’r Gweinidog Iechyd Matt Hancock.

Bydd Gareth Thomas yn beicio o Gaerdydd i Aberdeen ble mae noson Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn cael ei chynnal ddydd Sul nesaf (Rhagfyr 15).

Nid beic arferol fydd Gareth Thomas yn bedlo, ond beic cwad pedwar person a bydd enwogion o’r byd chwaraeon ac adloniant yn ymuno gydag ef.