Mae tîm rygbi merched Cymru wedi colli o 29-15 yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Sgoriodd Charmaine McMenamin, Dyddgu Hywel, Lauren Harris, Jenny Murphy ac Anna Caplice geisiau yn yr hanner cyntaf.

Tarodd Cymru’n ôl gyda cheisiau gan Lisa Neumann, Keira Bevan a’r eilydd Alex Callender yn yr ail hanner, ond doedd hynny ddim yn ddigon.

Bydd y dynion yn herio’i gilydd yn ddiweddarach (4.45yp).