Ulster 29–5 Scarlets

Colli’n drwm a fu hanes y Scarlets wrth iddynt ymweld â Ravenhill i wynebu Ulster yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Roedd y gêm fwy neu lai ar ben erbyn hanner amser wrth i’r Gwyddelod groesi am bedwar cais i sicrhau’r pwynt bonws o fewn yr hanner awr cyntaf.

Pedwar munud yn unig a oedd ar y cloc pan groesodd y tîm cartref am eu cais cyntaf, Matt Faddes yn tirio wedi cic daclus ei gyd ganolwr, Stuart McCloskey.

Ychwanegodd John Cooney yr ail wedi deuddeg munud cyn i sgarmes symudol effeithiol arwain at y trydydd i Matthew Rea hanner ffordd trwy’r hanner.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel cyn yr egywl gyda McCloskey yn creu unwaith eto yn y canol, pas hir wych y tro hwn yn creu cais i Robert Baloucoune yn y gornel dde.

Roedd yr ail hanner yn llawer tawelach a bu rhaid aros tan bum munud o’r diwedd am y cais nesaf, sgôr gysur i Jac Morgan a’r Scarlets.

Ond Ulster a gafodd y gair olaf wrth i Faddes groesi am ei ail gais ef o’r noson a phumed ei dîm, 29-5 y sgôr terfynol.

Mae’r Scarlets yn llithro i’r trydydd safle yn nhabl adran B oherwydd buddugoliaeth annisgwyl Caeredin ym Munster.

.

Ulster

Ceisiau: Matt Faddes 4’, 79’, John Cooney 9’, Matthew Rea 19’, Robert Baloucoune 28’

Trosiadau: John Cooney 10’, 18

Cerdyn Melyn: Craig Gilroy 72’

.

Scarlets

Cais: Jac Morgan 75’

Cerdyn Melyn: Uzair Cassiem 28’