Gleision 11–14 Caerlŷr

Colli i gic olaf y gêm a oedd hanes y Gleision wrth iddynt groesawu Caerlŷr i Barc yr Arfau yng Nghwpan Her Ewrop nos Sadwrn.

Roedd y gêm yn gyfartal wrth i’r cloc droi’n goch ond ildiodd y tîm cartref gic gosb i roi’r cyfle i Tom Hardwick ei hennill hi i’r Saeson.

Y Gleision a oedd tîm gorau’r chwarter agoriadol ond cic gosb o droed Jarrod Evans a oedd yr unig beth a oedd ganddynt i’w ddangos am eu goruchafiaeth.

Ychwanegodd y maswr un arall wedi hynny ond yr ymwelwyr o ganolbarth Lloegr a sgoriodd gais cyntaf y gêm ddeg munud cyn yr egwyl, Jordan Coghlan yn carlamu drosodd wedi bylchiad a dwylo taclus Ben White.

Ar ôl aros hanner awr am gais cyntaf y gêm, daeth yr ail yn fuan wedyn wrth i’r Gleision daro nôl yn syth, Aled Sumerhill yn tirio ar yr asgell wedi cic letraws Jason Tovey.

Llwyddodd Harwick gyda chic gosb i’r ymwelwyr wedi hynny, 11-8 y sgôr wrth droi.

Cafwyd digon o chwarae agored yn yr ail hanner ond roedd y ddau amddiffyn yn cael y gorau ar yr ymosod a phrin iawn a oedd y pwyntiau wedi’r egwyl.

Llwyddodd Hardwick gyda’i ail gic gosb o’r noson i unioni’r sgôr ar yr awr ac felly yr arhosodd hi tan i’r cloc droi’n goch ar ddiwedd y gêm.

Cafodd y tîm cartref y cyfle i gicio’r bêl allan a gorffen y gêm ond penderfynu gwrthymosod o’u dau ar hugain a wnaethant. Collodd y Gleision y meddiant, ildiodd Shane Lewis-Hughes gic gosb am drosedd yn ardal y dacl a chiciodd Hardwick dri phwynt i ennill y gêm.

Mae’r canlyniad yn codi Caerlŷr i frig grŵp 5 ac yn cadw’r Gleision yn yr ail safle.

.

Gleision

Cais: Aled Sumerhill 34’

Ciciau Cosb: Jarrod Evans 4’, 25’

.

Caerlŷr

Cais: Jordan Coghlan 31’

Ciciau Cosb: Tom Harwick 39’, 60’, 80’