Saracens 44–3 Gweilch

Colli’n drwm fu hanes y Gweilch wrth iddynt deithio i Barc Allianz i wynebu’r Saracens yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y deiliaid chwe chais mewn buddugoliaeth swmpus yng ngrŵp 4.

Roedd Eliot Daly a Manu Vinupola eisoes wedi rhoi’r tîm cartref chwe phwynt ar y blaen gyda chic gosb yr un cyn i Jack Singleton groesi am eu cais cyntaf, y bachwr yn tirio wedi sgarmes symudol.

Rhoddodd cic gosb James Hook lygedyn o obaith i’r Gweilch wedi hynny ond buan y diflannodd hwnnw wrth i’r Saracens groesi am ddau gais arall yn neg munud olaf yr hanner.

Daeth y cyntaf o’r rheiny i Rotimi Segun ar yr asgell dde yn dilyn dyfeisgarwch y mewnwr, Tom Whiteley, gyda chic ddeheuig yng nghanol cae.

Yr asgellwr arall, Alex Lewington, a gafodd y llall, yn cael ei ryddhau gan Segun yn dilyn pas hir Brad Barritt.

Ugain pwynt o fantais i’r Saeson ar yr egwyl felly ac roedd y pwynt bonws yn ddiogel yn gynnar yn yr ail hanner, ail gais i Segun wedi dadlwythiad gwych seren y gêm, Daly.

Gwaith da gan y blaenwyr a arweiniodd at ddau gais arall i’r Saracens yn y chwarter olaf, un cais cosb ac un i’r eilydd brop, Richard Barrington.

Mae’r canlyniad yn rhoi mynydd i’w ddringo i’r Gweilch yng ngrŵp 4 yn barod, maent ar y gwaelod ar ôl colli eu dwy gêm gyntaf.

.

Saracens

Ceisiau: Jack Singleton 21’, Rotimi Segun 32’, 47’, Alex Lewington 37’, Cais Cosb 62’, Richard Barrington 66’

Trosiadau: Manu Vunipola 38’, 48’, 62’, 67’

Ciciau Cosb: Elliot Daly 13’, Manu Vunipola 17’

.

Gweilch

Ciciau Cosb: James Hook 29’