Enisei-STM 22–49 Dreigiau

Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth bwynt bonws yng Nghwpan Her Ewrop brynhawn Gwener yn dilyn taith hir i wynebu Enisei-STM yn ninas Krasnoyark yn Rwsia.

Er ei bod hi’n gyfartal ar yr egwyl, fe gynhesodd y Cymry yn yr ail hanner i ennill yn gyfforddus yn Siberia.

Dechreuodd y Dreigiau ar dân gyda chais unigol gwych Jordan Williams yn y deg munud cyntaf, y cefnwr yn rhedeg yr holl ffordd o’i ddau ar hugain ei hun.

Ymatebodd y tîm cartref yn dda serch hynny ac roeddynt ar y blaen wrth i hanner amser agosáu diolch i geisiau Bjorn Basson a Jeremy Jordaan.

Cyfartal a oedd hi wrth droi wedi i Arwel Robson drosi ei gais ei hun ym munud olaf yr hanner, 14 pwynt yr un ar yr egwyl.

Er gwaethaf yr hanner cyntaf cyfartal, dim ond un tîm a oedd ynddi yn yr ail ddeugain. Roedd y pwynt bonws yn ddiogel o fewn y deg munud cyntaf diolch sgôr yr un gan Ben Fry a Will Talbot-Davies.

Ychwanegodd Ellis Shipp y pumed cais cyn yr awr cyn i Dafydd Howells a Tyler Morgan gwblhau’r sgorio yn y chwarter olaf.

Llwyddodd Robson gyda saith trosiad allan o saith gan orffen y gêm gyda phedwar pwynt ar bymtheg, 22-49 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad, eu hail buddugoliaeth bwynt bonws yn olynol yn gadael y Dreigiau ar frig grŵp 1 y Cwpan Her.

.

Enisei-STM

Ceisiau: Bjorn Basson 14’, Jeremy Jordaan 25’, Davit Meskhi 71’

Trosiadau: Ramil Gaisin 15’, 26’

Cic Gosb: Ramil Gaisin 47’

Cerdyn Melyn: Stanislav Selskii 40’

.

Dreigiau

Ceisiau: Jordan Williams 9’, Arwel Robson 40’, Ben Fry 45’, Will Talbot-Davies 48’, Ellis Shipp 58’, Dafydd Howells 62’, Tyler Morgan 76’

Trosiadau: Arwel Robson 10’, 40’, 46’, 49’, 59’, 63’, 77’

Cerdyn Melyn: Huw Taylor 64’