Mae tîm hyfforddi newydd Cymru yn llawn dop o gyn-gapteiniaid rhyngwladol megis Stephen Jones, Jonathan Humphreys a Sam Warburton.

A’r diweddaraf i gamu ar fwrdd y llong yw Martyn Williams, y cyn-flaenasgellwr gafodd gant o gapiau tros ei wlad tros gyfnod o 16 o flynyddoedd cyn ymddeol yn 2012.

Bydd yn camu i esgidiau Alan Phillips, y dyn sydd wedi bod yn Reolwr Tîm Cymru am 18 o flynyddoedd ac wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Graham Henry, Steve Hansen, Gareth Jenkins a’r arobryn Warren Gatland.

Bydd Alan Phillips yn parhau i weithio gyda Warren Gatland wrth i’r ddau arwain taith y Llewod i Dde Affrica yn 2021.

Bydd Martyn Williams yn cychwyn ei swydd newydd yn y flwyddyn newydd.

“Mae yn wych gallu penodi Martyn i’r swydd hon ac mae yn hyfryd cael cydweithio gyda cyn-chwaraewr mor brofiadol ac uchel ei barch,” meddai Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru.