Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr newydd tîm rygbi Cymru, yn dweud bod Sam Warburton yn “un o arweinwyr mwyaf profiadol y byd rygbi” ar ôl cyhoeddi ei fod yn ychwanegu’r cyn-gapten at ei dîm hyfforddi.

Daeth cadarnhad o benodiad y cyn-flaenasgellwr yn ymgynghorydd ar ardal y dacl a’r amddiffyn, ynghyd â Byron Hayward yn hyfforddwr yr amddiffyn.

Mae’r ddau yn ymuno â Stephen Jones (ymosod), Neil Jenkins (sgiliau) a Jonathan Humphreys (blaenwyr).
Mae’n golygu bod ganddo fe dri chyn-gapten yn rhan o’i dîm hyfforddi.
“Dw i wrth fy modd o gael dod â Byron a Sam i mewn i’r tîm ac ychwanegu at yr hyn sydd eisoes yn dîm hyfforddi profiadol dros ben,” meddai Wayne Pivac.
“Mae’r ddau unigolyn yn uchel eu parch, yn wybodus ac yn brofiadol yn eu disgyblaethau ac fe fyddan nhw’n ychwanegu cryn dipyn at yr amgylchfyd.
“Mae Sam yn un o’r arweinwyr mwyaf profiadol yn y byd rygbi a chanddo fe wybodaeth a sgiliau cyfathrebu gwych ac ar ôl ymddeol yn ddiweddr, mae ganddo fe afael lawn ar y gêm ryngwladol.
‘Wrth fy modd’
“Dw i wrth fy modd o gael bod yn rhan o’r tîm hyfforddi cenedlaethol uwch,” meddai Sam Warburton.
“Mae’n fraint wirioneddol cael fy ystyried ar gyfer y fath rôl ac alla i ddim aros i wneud fy ngorau i gyfrannu er mwyn helpu i wella’r tîm a’r chwaraewyr.
“Gyda’r fath griw gwych o chwaraewyr a rheolwyr, mae’n gyfle anhygoel dw i’n falch iawn o’i gael.”