Mae’r BBC wedi talu am yr hawl i ddarlledu uchafbwyntiau gemau Guinness Pro14 a bydd y rhaglen gyntaf ymlaen ddydd Sul.

Mae’r cytundeb yn cynnwys pob rownd o gemau Pro14, yn ogystal â’r gemau ail-gyfle a’r rowndiau terfynol, am y ddau dymor nesaf.

Y BBC fydd yn darlledu gêm y rownd derfynol yng Nghaerdydd yn 2020.

Bydd y rhaglen Scrum V yn dangos uchafbwyntiau gemau Pro14 yn wythnosol ar BBC Two Wales.

Hefyd bydd BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yn darlledu sylwebaeth fyw o gemau Pro14.

A bydd BBC Wales yn parhau gyda chynhyrchiad byw o gemau Pro14 ar gyfer rhaglen Clwb Rygbi ar S4C.

“Mae hwn yn adeg gwych i gael uchafbwyntiau’r bencampwriaeth yn dychwelyd i’r BBC,” meddai pennaeth chwaraeon BBC Cymru Wales, Geoff Williams.