Gweilch 10–20 Connacht

Colli fu hanes y Gweilch wrth iddynt groesawu Connacht i’r Liberty yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Roedd dau gais hanner cyntaf yn ddigon i’r Gwyddelod ar noson wlyb yn ne orllewin Cymru.

Er i Luke Price gicio’r Gweilch ar y blaen gyda chic gosb gynnar fe gafwyd ymateb cyflym gan Connacht gyda chais gwych Niyi Adeolokun.

Daeth symudiad da o hyd i’r asgellwr ar y dde, roedd gan y gwibiwr ddigon i’w wneud o hyd ond gorffennodd mewn steil gyda chic a chwrs.

Llwyddodd Conor Fitzgerald gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb i ymestyn mantais y Gwyddelod i saith pwynt erbyn hanner ffordd trwy’r hanner.

Cynyddodd y pwysau ar amddiffyn y Gweilch wedi hynny gan arwain at gerdyn melyn i Dan Lydiate am drosedd yn ardal y dacl yng nghysgod ei byst ei hun.

Arweiniodd y sgrym ganlynol at ail gais anochel i Connacht, y canolwr, Peter Robb, yn croesi wedi meddiant glân o gefn sgrym bum medr, 3-17 y sgôr wrth droi wedi trosiad Fitzgerald.

Dechreuodd y Gweilch yr ail hanner yn well ac fe ddaeth cais haeddiannol toc cyn yr awr wrth i Sam Parry gyrraedd y gwyngalch wedi sgarmes symudol effeithiol.

Roedd y Cymry yn ôl o fewn sgôr wedi trosiad James Hook ond tarodd Connacht yn ôl yn syth gyda cic gosb Fitzgerald yn ymestyn y fantais i ddeg pwynt gyda chwarter y gêm yn weddill.

Ar noson wlyb ddiflas, fe brofodd hynny’n hen ddigon o fantais wrth i’r ymwelwyr ddal eu gafael yn gymharol gyfforddus i ennill o ugain pwynt i ddeg.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gweilch yn chweched allan o saith yn adran A y Pro14.

.

Gweilch

Cais: Sam Parry 56’

Trosiad: James Hook 58’

Cici Gosb: Luke Price 4’

Cerdyn Melyn: Dan Lydiate 24’

.

Connacht

Ceisiau: Niyi Adeolokun 5’, Peter Robb 25’

Trosiadau: Conor Fitzgerald 6’, 25’

Ciciau Cosb: Conor Fitzgerald 17’, 60’