Fe gafodd y Cymry eu trechu 40-17 yn y gêm ar gyfer y fedal efydd yn erbyn Seland Newydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Japan.

Roedd Cymru yn edrych yn flinedig ac wedi gorfod gwneud heb rhai o’u chwaraewyr gorau oherwydd anafiadau.

I’r gwrthwyneb, mae’r canlyniad yn brawf bod gan Seland Newydd garfan gref.

Cyn colli i’r Saeson yn y rownd gynderfynol y penwythnos diwethaf, nid oedd y Crysau Duon wedi colli gêm yng Nghwpan y Byd ers 2007.

Josh Adams yw’r arwr ar yr asgell

Fe sgoriodd Josh Adams ei seithfed cais o’r twrnament yn erbyn y Crysau Duon – un yn fwy na’r chwech sgoriodd Shane Williams yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 2007.

Felly Josh Adams yw’r chwaraewr sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o geisiau i Gymru mewn un Cwpan y Byd.

Pe bai wedi sgorio wythfed, byddai wedi dod yn gyfartal â’r record – dim ond Jonah Lomu, Julian Savea a Bryan Habana sydd wedi sgorio wyth cais mewn un Cwpan Rygbi’r Byd.