Mae Warren Gatland yn dweud iddo gael “tipyn o brofiad” yn hyfforddi tîm rygbi Cymru.

Fe fydd e wrth y llyw am y tro olaf ddydd Gwener (Tachwedd 1), wrth i Gymru herio Seland Newydd am y trydydd safle yng Nghwpan y Byd yn Japan.

Ers cael ei benodi yn 2007, mae Warren Gatland wedi arwain Cymru i bedwar tlws y Chwe Gwlad a thair Camp Lawn, i ddwy gêm gyn-derfynol yng Nghwpan y Byd ac i frig rhestr detholion y byd.

Fe fydd e’n dychwelyd i Seland Newydd ar ôl y gystadleuaeth i hyfforddi’r Chiefs, gyda’i gydwladwr Wayne Pivac yn ei olynu.

Ond bydd e’n hyfforddi’r Llewod ar eu taith nesaf i Dde Affrica yn 2021, ac yn dychwelyd i Gymru i hyfforddi’r Barbariaid yn erbyn Cymru ar Dachwedd 30.

“Fe fu’n dipyn o brofiad,” meddai.

“Dw i wedi dweud ar sawl achlysur nad o’n i byth wedi meddwl y byddwn i yng Nghymru am 12 o flynyddoedd.

“Dw i’n freintiedig iawn o gael gweithio â chriw o hyfforddwyr a staff cefndir, ac rydym wedi bod yn eithriadol o agos yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Mae hynny wedi gwneud pethau dipyn haws yn nhermau synergedd a bod ar yr un dudalen.

“Mae’r chwaraewyr dw i wedi gweithio â nhw, dw i wedi cael tua thair carfan yn y cyfnod hwnnw, a dw i wedi gweithio gyda nifer o unigolion rhagorol a rhai chwaraewyr dw i wedi bod yn lwcus o’u hyfforddi.”

‘Diolch’

Mae Warren Gatland hefyd wedi diolch i gefnogwyr Cymru, gan ddweud ei fod e wedi cael croeso cynnes yn y wlad.

“Maen nhw wedi bod yn heriol ar adegau, ond maen nhw wedi’i wneud yn werthchweil yn nhermau pa mor gynnes fuon nhw i fi yng Nghymru,” meddai.

“Maen nhw wedi bod mor groesawgar ac mae Cymru wirioneddol fel ail gartref i fi.

“Dw i’n mynd i weld eisiau bod yma.”

‘Diwedd cyfnod’

Wrth i Warren Gatland baratoi i ffarwelio â Chymru, mae’n dweud ei fod yn “ddiwedd cyfnod i lawer o bobol”.

“I nifer o chwaraewyr, hwn fwy na thebyg fydd eu gêm olaf yng Nghwpan y Byd, felly mae yna lawer o bobol ynghlwm, nid dim ond fi.

“Dw i’n credu bod Cymru wedi rhoi cyfle i fi, a dw i wedi bod wrth fy modd.

“Rydyn ni wedi bod yn ddigon lwcus i gael llawer o lwyddiant.

“Fe fu rhai isafbwyntiau a siom, ond dw i’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni.”