Mae tîm rygbi Lloegr wedi cael dirwy am groesi’r llinell hanner er mwyn herio’r Haka yn eu gêm gyn-derfynol yng Nghwpan y Byd yn erbyn Seland Newydd yn Japan.

Fe wnaethon nhw ffurfio siâp ‘V’ wrth sefyll i wynebu’r rhyfelgri, ond fe wnaethon nhw dorri rheolau wrth fethu ag aros yn eu hanner eu hunain o’r cae.

Ac fe wnaethon nhw hynny er i’r dyfarnwr Nigel Owens a’i gynorthwyr eu rhybuddio i gamu’n ôl.

Mae lle i gredu mai £2,000 o ddirwy gawson nhw, ac y bydd yr arian yn cael ei roi i elusen swyddogol corff Rygbi’r Byd, sy’n helpu mwy na 25,000 o blant difreintiedig yn Asia.

Cafodd y digwyddiad ei ddefnyddio ar wefannau cymdeithasol y trefnwyr i hyrwyddo’r gystadleuaeth, ond mae’n ymddangos ei fod yn groes i reolau’r corff sy’n goruchwylio’r gêm.

Mae’r digwyddiad hefyd ymhlith pum digwyddiad gorau’r trefnwyr. Roedd fideo o’r digwyddiad wedi cael ei wylio 4,118,515 o weithiau hyd at Hydref 26.

Cafodd Ffrainc ddirwy o £2,500 wyth mlynedd yn ôl am wneud yr un peth yn Auckland.