Nigel Owens, y dyfarnwr o Fynyddcerrig, fydd yng ngofal y gêm rhwng Lloegr a Seland Newydd fore heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 26, 9yb), wrth iddyn nhw fynd am le yn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan.

Dydy’r Saeson ddim wedi cyrraedd y rownd derfynol ers 2007, ond mae’r Crysau Duon yn ceisio creu hanes wrth fynd am drydydd tlws yn olynol – camp sydd erioed wedi cael ei chyflawni o’r blaen.

A’r Crysau Duon sydd yn y sefyllfa gryfaf, yn ôl yr ystadegau beth bynnag, ar ôl ennill eu 18 gêm diwethaf yng Nghwpan y Byd.

Mewn tri chyfarfod, dydy’r Saeson erioed wedi eu curo yn y gystadleuaeth.

Y tro diwethaf iddyn nhw gyfarfod, y Crysau Duon enillodd o 16-15 yn Twickenham fis Tachwedd y llynedd.

Mae Seland Newydd wedi ennill 33 allan o 41 o gemau yn erbyn y Saeson ar hyd y blynyddoedd.

Y timau

Mae’r ddau dîm wedi gwneud ambell newid ar gyfer y gêm.

Mae George Ford yn dychwelyd i safle’r maswr yn nhîm Lloegr, wrth i Owen Farrell symud i’r canol, gyda Henry Slade yn gostwng i’r fainc.

Ar y fainc hefyd mae’r chwaraewr rheng ôl Mark Wilson, sy’n disodli Lewis Ludlam.

O safbwynt y Crysau Duon, mae Sam Cane wedi gostwng i’r fainc, tra bod y clo Scott Barrett wedi’i ddewis yn flaenasgellwr.

Lloegr: E Daly; A Watson, M Tuilagi, O Farrell (capt), J May; G Ford, B Youngs; M Vunipola, J George, K Sinckler, M Itoje, C Lawes, B Curry, S Underhill, B Vunipola.

Eilyddion: L Cowan-Dickie, J Marler, D Cole, G Kruis, M Wilson, W Heinz, H Slade, J Joseph.

Seland Newydd: B Barrett; S Reece, J Goodhue, A Lienert-Brown, G Bridge; R Mo’unga, A Smith; J Moody, C Taylor, N Laulala, B Retallick, S Whitelock, S Barrett, A Savea, K Read (capten).

Eilyddion: D Coles, O Tuungafasi, A Ta’avao, P Tuipulotu, S Cane, TJ Perenara, S B Williams, J Barrett.