Mae disgwyl i’r canolwyr Jonathan Davies a Hadleigh Parkes fod yn holliach ar gyfer gêm dyngedfennol tîm rygbi Cymru yn erbyn De Affrica yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd ddydd Sul (Hydref 27).

Doedd Jonathan Davies ddim ar gael i herio Ffrainc yn rownd yr wyth olaf oherwydd anaf i’w ben-glin, ac fe fu Hadleigh Parkes yn chwarae er iddo dorri asgwrn yn ei law ac anafu ei ysgwydd.

Yn absenoldeb Jonathan Davies, doedd Cymru ddim wedi gallu chwarae ar eu gorau, ac fe wnaethon nhw grafu buddugoliaeth o 20-19 dros Ffrainc.

Owen Watkin oedd wedi chwarae yn y canol yn y gêm honno, ond fe fydd cael Jonathan Davies yn ei ôl yn hwb i Gymru.

Mae Owen Lane, sy’n gallu chwarae yn y canol neu ar yr asgell, wedi cael ei alw i’r garfan yn dilyn y newyddion bod y blaenasgellwr Josh Navidi allan o’r gystadleuaeth ag anaf i linyn y gâr.

Mae gan Gymru ddigon o ddewis yn y safle hwnnw, ac mae Warren Gatland wedi achub ar y cyfle i ddod â chanolwr arall i mewn i’r garfan yn sgil y pryderon a fu am Jonathan Davies a Hadleigh Parkes.