Mae chwaraewr rheng ôl Cymru, Josh Navidi, allan o’r garfan gydag anaf am weddill Cwpan Rygbi’r Byd.

Cafodd ei orfodi i ddod oddi ar y cae yn y fuddugoliaeth o 20-19 yn erbyn Ffrainc dydd Sul (Hydref 20), gydag anaf i linyn y gar.

Dywed Warren Gatland y bydd yn galw ar chwaraewr rheng ôl i gymryd lle Josh Navidi.

Ail chwaraewr y i adael Siapan gyda anaf

Josh Navidi yw’r ail chwaraewr o garfan Cymru i adael Siapan gydag anaf wedi i Cory Hill orfod gadael ar ôl cael anaf i’w goes.

Roedd Josh Navidi wedi cymryd lle Ross Moriarty fel dewis cyntaf rhif wyth Cymru er ei fod yn gallu chwarae ym mhob safle yn y rheng ôl.