Mae Rygbi’r Byd yn ymchwilio ar ôl i lun gael ei gyhoeddi ar-lein sy’n dangos dyfarnwr yn gwneud hwyl o chwaraewr Ffrainc a dderbyniodd gerdyn coch.

Fe gafodd Vahaamahina ei wahardd o’r cae yn dilyn ei ymddygiad yn ystod gêm Cymru a Ffrainc ddydd Sul (Hydref 20) yn Japan.

Roedd y Ffrancwr wedi taro wyneb y blaenasgellwr Aaron Wainwright – digwyddiad a newidiodd y gêm, gan alluogi Cymru i sicrhau buddugoliaeth o 20-19.

Gan mor amlwg oedd yr ymosodiad, bu’r penderfyniad o gosbi Vahaamahina yn un hawdd i’r dyfarnwr, Jaco Peyper.

Ond mae’r swyddog o Dde Affrica bellach o dan y lach wedi i lun ohono ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y gêm yn Stadiwm Oita.

Mae’r llun yn dangos Jaco Peyper yng nghwmni criw o gefnogwyr Cymru ac yn esgus taro un o’u pennau gyda’i benelin.

“Mae Rygbi’r Byd yn ymwybodol o’r llun ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n dangos y dyfarnwr Jaco Peyper yng nghwmni cefnogwyr Cymru ar ôl gêm y rownd gyn-derfynol rhwng Cymru a Ffrainc neithiwr yn Oita,” meddai llefarydd ar ran y corff rhyngwladol.

“Mae’n amhriodol gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd wrth inni ystyried y ffeithiau.”

Mae Dirprwy Lywydd Ffederasiwn Rygbi Ffrainc, Dr Serge Simon, wedi disgrifio’r llun fel un “echrydus”.