De Affrica fydd gwrthwynebwyr Cymru yn rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd ddydd Sul nesaf (Hydref 27).

Sicrhaodd Cymru eu lle ymhlith y pedwar olaf ar ôl curo Ffrainc o 20-19 yn gynharach heddiw, ac fe drechodd De Affrica Japan o 26-3.

Ciciodd Handre Pollard 11 o bwyntiau a sgoriodd Makazole Mapimpi ddau gais, gyda’r cais arall yn dod gan Faf de Klerk.

Daeth unig bwyntiau Japan drwy gais gan Yu Tamura.

Fe fydd Lloegr yn herio Seland Newydd yn y gêm gyn-derfynol arall am le yn y ffeinal yn Yokohama ymhen pythefnos.