Mae tîm rygbi Cymru’n gyfforddus fel ffefrynnau i guro Ffrainc yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi’r Byd yfory (dydd Sul, Hydref 20), yn ôl yr asgellwr Josh Adams.

Maen nhw’n mynd am le yn y rownd gyn-derfynol am yr ail waith mewn tri thwrnament ar ôl codi tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni.

Ac mae’r asgellwr, sydd wedi sgorio pum cais hyd yn hyn, yn dweud eu bod nhw’n gwybod “beth sydd angen ei wneud” er mwyn trechu Ffrainc, sy’n cydnabod mai Cymru yw’r ffefrynnau.

Byddai chweched cais i’r asgellwr yn mynd â fe’n gyfartal â record ceisiau Shane Williams mewn un gystadleuaeth.

Mae e wedi sgorio tri chais yn llai mewn un twrnament na Jonah Lomu, Bryan Habana a Julian Savea sy’n dal y record gydag wyth cais mewn un twrnament.

Y tro diwethaf iddyn nhw herio’i gilydd yn rowndiau olaf Cwpan y Byd, Ffrainc oedd yn fuddugol, a hynny yn y rownd gyn-derfynol yn 2011.

“Mae’r label yn un nad oes ots gyda ni ei gael,” meddai Josh Adams.

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed er mwyn ennill y label o fod yn un o’r timau gorau ac os yw timau eisiau ein dewis ni fel ffefrynnau, popeth yn iawn.

“Fe awn ni o gwmpas ein pethau, ac rydyn ni’n gwybod beth sydd angen ei wneud.

“Rydyn ni wedi bod yn hamddennol, fel yr ydyn ni bron bob wythnos.”

Ymateb Ffrainc

Mae Jacques Brunel, prif hyfforddwr Ffrainc yn cydnabod mai Cymru yw’r ffefrynnau.

Dim ond unwaith mewn wyth gêm yng Nghwpan y Byd mae’r Ffrancwyr wedi curo Cymru, a hynny o 9-8 yn 2011.

“Mae gan Gymru fwy o hyder na ni, mae hynny’n amlwg,” meddai.

“Maen nhw wedi bod yn gyson ers sawl tymor, does dim gwadu hynny.

“Nhw yw’r ffefrynnau, ac rydyn ni ar eu holau nhw.

“Mae hynny’n normal, ond dydy hynny ddim yn ein hatal ni rhag credu yn ein gobeithion.”

Yn y cyfamser, mae Lloegr drwodd i’r rownd gyn-derfynol ar ôl curo Awstralia o 40-16, tra bod Iwerddon yn herio Seland Newydd yn y gêm arall heddiw.

Mae gêm Japan yn erbyn De Affrica yfory’n cwblhau rownd yr wyth olaf.