Mae Ken Owens yn credu fod profiad yn ffactor hanfodol y tu ôl i feddylfryd gemau mawr Cymru.

Fe fydd Cymru yn herio Ffrainc yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn Oita ddydd Sul (Hydref 20).

Mae Cymru wedi curo Ffrainc mewn saith o’i wyth gêm ddiwethaf.

“Dw i’n meddwl fod ganddon ni hyder yn ein gilydd,” meddai Ken Owens.

“Mae pawb yn gyfforddus yn eu rôl yn y garfan ac mae ganddon ni brofiad ar draws y garfan mewn gemau mawr.”