Scarlets 54–10 Zebre

Cododd y Scarlets i frig adran B y Guinness Pro14 gyda buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Zebre yn Llanelli brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y tîm cartref wyth cais mewn buddugoliaeth swmpus ar Barc y Scarlets.

Cafodd y Scarlets y dechrau perffaith gyda chais i Kieran Hardy yn yr ail funud, y mewnwr wrth law i groesi o dan y pyst yn dilyn rhediad Steff Evans o’i hanner ei hun.

Daeth ail gais i’r tîm cartref ychydig funudau’n ddiweddarach, Josh Macleod yn tirio wedi sgarmes symudol effeithiol.

Roedd y fuddugoliaeth fwy neu lai yn ddiogel wedi ychydig dros chwarter y gêm yn dilyn trydydd cais i Fois y Sosban, Ryan Conbeer yn sgorio wedi cic daclus Steff Hughes i’w lwybr.

Arweiniodd sgarmes symudol at gais cyntaf y gêm i’r Eidalwyr wedi hynny, y bachwr, Marco Manfredi, yn croesi.

Ond y Cymry a gafodd air olaf yr hanner gan sicrhau’r pwynt bonws gydag ail gais Hardy o’r prynhawn, yn dilyn gwaith da gan Conbeer, 26-10 y sgôr wrth droi.

Dechreuodd yr ail hanner, fel y cyntaf, gyda chais cynnar i’r Scarlets. Y bachwr, Taylor Davies, a gafodd hwnnw wedi hyrddiad nerthol arall gan y blaenwyr.

Dilynodd chweched cais yn fuan wedyn, Johnny McNicholl yn sgorio wedi cic gelfydd arall dros yr amddiffyn gan y canolwr, Steff Hughes.

Arafodd y sgorio wedi hynny ond gorffennodd y Scarlets yn gryf gyda dau gais arall yn y chwe munud olaf, Josh Helps yn cael ei gyntaf i’r rhanbarth cyn i McNicholl groesi am ei ail o’r gêm.

Cafodd y ddau eu trosi gan Angus O’Brien wrth i’r tîm cartref groesi’r hanner cant, 54-10 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi’r Cymry i frig adran B y Pro14 gyda thair buddugoliaeth allan o dair.

.

Scarlets

Ceisiau: Kieran Hardy 2’, 29’, Josh Macleod 8’, Ryan Conbeer 22’, Taylor Davies 43’, Johnny McNicholl 50’, 80’, Joe Helps 74’

Trosiadau: Dan Jones 3’, 23’, 30’, 44’, Angus O’Brien 51’, 75’

Cerdyn Melyn: Lewis Rawlins 57’

.

Zebre

Cais: Marco Manfredi 26’

Trosiad: Michelangelo Biondelli 27’

Cic Gosb: Michelangelo Biondelli 20’