Dreigiau 14–38 Connacht

Colli’n drwm a oedd hanes y Dreigiau wrth iddynt groesawu Connacht i Rodney Parade yn y Guinnes Pro14 nos Wener.

Ildiodd y Dreigiau bump cais wrth i’r Gwyddelod adael de ddwyrain Cymru gyda phwyntiau llawn.

Y Dreigiau a oedd y tîm gorau yn y chwarter agoriadol ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda chais Tyler Morgan, y canolwr yn cael ei ryddhau gan bas wedi ei hamseru’n berffaith gan Sam Davies. Ychwanegodd Davies y trosiad i roi saith pwynt o fantais i’w dîm.

Tarodd Connacht yn ôl yn gryf a dechreuodd y Gwyddelod reoli’n raddol. Hyrddiodd Gavin Thornbury trwy bentwr o gyrff i gyrraedd y gwyngalch am gais cyntaf yr ymwelwyr cyn i Conor Fitzgerald gicio trosiad a chic gosb i roi ei dîm ar y blaen.

Dilynodd ail gais Connacht yn fuan wedyn, sgôr unigol dda gan Matt Healy, yr asgellwr yn gorffen yn gelfydd ar y chwith gyda chic a chwrs.

Ychwanegodd Fitzgerald y trosiad ac roedd gan yr ymwelwyr ddeg pwynt o fantais ar ôl sgorio 17 pwynt mewn saith munud.

Gorffennodd y Gwyddelod yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn i John Porch am dacl beryglus yn yr awyr ar Ashton Hewitt.

Dechreuodd y gêm fynd o afael y Dreigiau wrth i Connacht barhau i reoli ar ddechrau’r ail hanner. Sgoriodd Finlay Bealham drydydd cais yr ymwelwyr yn dilyn sgarmes symudol effeithiol ac roeddynt 17 pwynt ar y blaen wedi trosiad Fitzgerald.

Trodd Connacht eu golygon at y pwynt bonws wedi hynny ac er y bu rhaid iddynt aros sbel, fe ddaeth hwnnw i Cillian Gallagher ddeg munud o’r diwedd yn dilyn sgarmes symudol arall.

Dilynodd pumed cais yn y munudau olaf wrth i’r eilydd fewnwr, Kieran Marimon, groesi o dan y pyst i droi’r fuddugoliaeth yn grasfa.

Cais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Taine Basham i’r tîm cartref, 14-38 y sgôr terfynol.

.

Dreigiau

Ceisiau: Tyler Morgan 19’, Taine Basham 80’

Trosiadau: Sam Davies 20’, 80’

.

Connacht

Ceisiau: Gavin Thornbury 25’, Matt Healy 31’, Finlay Bealham 49’, Cillian Gallagher 71’, Kieran Marimon 78’

Trosiadau: Conor Fitzgerald 26’, 32’, 50’, 73’, 79’

Cic Gosb: Conor Fitzgerald 30’

Cardiau Melyn: John Porch 39’, Paul Boyle 80’