Mae Ross Moriarty wedi clodfori cymeriad Cymru wedi iddyn nhw ymdopi â sialens ffyrnig a chorfforol gan Ffiji a sicrhau ei lle yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi’r Byd.

Cafodd Cymru eu gwthio’r holl ffordd gan Ffiji, ond rhoddodd tri chais gan Josh Adams ac un gan Liam Williams y fuddugoliaeth i’r crysau cochion ddoe (dydd Mercher, Hydref 9).

“Roedd hi’n gêm anodd, roeddem yn gwybod fod Ffiji yn dîm peryglus,” meddai’r wythwr.

“Dangoson nhw hynny yn y pymtheg munud cyntaf, ond dangoson ni lot o gymeriad i ddod yn ôl ac ennill y gêm.Byddai buddugoliaeth i Gymru yn erbyn Wrwgwai yn Kumamoto ddydd Sul (Hydref 13) yn sicrhau gornest yn erbyn Ffrainc yr wythnos ganlynol (Hydref 20).