Mae Cymru wedi “ail-lenwi’r tanc” cyn eu gêm yn erbyn Ffiji ddydd Mercher (Hydref 9), yn ôl Robin McBryde.

Byddai buddugoliaeth yn erbyn Ffiji yn sicrhau lle Cymru yn yr wyth olaf cyn eu gêm grŵp olaf yn erbyn Wrwgwai ddydd Sul (Hydref 13).

Dydi Cymru ddim wedi ennill ei grŵp gyda record 100% ers Cwpan y Byd cyntaf, 32 mlynedd yn ôl, ond maen nhw ar y trywydd iawn i wneud hynny eleni.

“Rydan ni mewn lle da” meddai Robin McBryde. “Yn amlwg rydan ni wedi cael deg diwrnod o saib, ac wedi galli ail-lenwi’r tanc.

“Bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau a’i chymryd hi un dydd ar y tro. Y nod yw cael gêm Ffiji allan o’r ffordd ac wedyn gallu ffocysu ar Wrwgwai.”