Mae Warren Gatland wedi gwneud dau newid i dîm Cymru ar drothwy’r gêm yn erbyn Ffiji ddydd Mercher (Hydref 9).

Daw’r newidiadau yn y rheng ôl gyda Ross Moriarty yn dechrau yn safle’r wythwr a James Davies yn symud i safle’r blaenasgellwr ochr agored.

Bydd Josh Navidi yn dechrau yn safle’r blaenasgellwr ochr dywyll.

Mae gweddill y tîm yn aros yr un fath, gyda Wyn Jones, Ken Owens a Tom Francis yn y rheng flaen, a Jake Ball a’r capten, Alun Wyn Jones, yn aros yn yr ail reng.

Mae Gareth Davies a Dan Biggar yn ddigyfnewid yn safleoedd y mewnwr a’r maswr, fel y mae Hadleigh Parkes a Jonathan Davies yng nghanol y cae.

Josh Adams, George North a Liam Williams yw’r tri yn y cefn.

Y tîm

Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capten), Josh Navidi, James Davies, Ross Moriarty.

Ar y fainc

Elliot Dee, Rhys Carre, Dillon Lewis, Aaron Shingler, Aaron Wainwright, Tomos Williams, Rhys Patchell, Owen Watkin.