Mae’r clo Adam Beard wedi dechrau ymarfer gyda charfan rygbi Cymru eto ar ôl gwella yn dilyn llawdriniaeth ar ei bendics.

Fe gafodd e lawdriniaeth ar y diwrnod y gwnaeth y garfan adael am Japan.

Mae e wedi bod yn Japan ers dechrau Cwpan y Byd.

Mae Cymru’n herio Ffiji ddydd Mercher (Hydref 9).

“Mae Beardy wedi cael y llawdriniaeth, oedd yn anffodus, ac yna fe gollodd e sawl cilo,” meddai Paul Stridgeon, pennaeth perfformiad corfforol Undeb Rygbi Cymru.

“Mae e’n foi da sy’n gwneud popeth ry’n ni’n gofyn iddo ei wneud, fel yr holl chwaraewyr, felly rydyn ni wedi bod yn ei fwydo fe gymaint â phosib.

“Mae e wedi bod yn gweithio’n galed, yn gwneud sesiynau pwysau ychwanegol, ac wedi gwella’n dda.

“Mae e’n ymarfer yn llawn yr wythnos yma, felly mae e wedi gwneud yn dda.”