Scarlets 18–10 Connacht
Dechreuodd cyfnod Brad Mooar wrth y llyw ar Barc y Scarlets gyda buddugoliaeth yn erbyn Connacht ar benwythnos cyntaf y Guinness Pro14.
Roedd hi’n bell o fod yn glasur ar nos Sadwrn wlyb yn Llanelli ond roedd ceisiau hanner cyntaf Steff Evans a Paul Asquith yn ddigon i Fois y Sosban ddechrau’r tymor newydd gyda chanlyniad cadarnhaol.
Bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf am y sgôr gyntaf, Evans yn hyrddio drosodd o ddwy fedr wedi i Asquith wneud yn dda i gadw’i afael ar y bêl.
Ar ôl creu’r cais cyntaf, yr Awstraliad a sgoriodd yr ail chwarter awr yn ddiweddarach, yn llithro o dan y pyst yn dilyn ffugiad deheuig ei bartner yn y canol, Steffan Hughes.
Ymestynnodd Dan Jones y fantais i ddeuddeg pwynt gyda’r trosiad cyn i Conor Fitzgerald gau’r bwlch i naw gyda chic gosb cyn yr egwyl.
Adferodd Jones y deuddeg pwynt o fantais gyda chic gosb yn gynnar yn yr ail gyfnod ond daeth y Gwyddelod yn fwyfwy i’r gêm wedi hynny wrth i’r tywydd waethygu.
Trodd y pwysau yn gais pan hyrddiodd Eoghan Masteron drosodd toc cyn yr awr a phum pwynt yn unig a oedd ynddi wedi trosiad Fitsgerald.
Ail gasglodd y Scarlets wedi hynny ac er nad oedd mwy o geisiau, roedd tri phwynt arall o droed Jones yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Fois y Sosban ac amddifadu Connacht o bwynt bonws.
.
Scarlets
Ceisiau: Steff Evans 20’, Paul Asquith 35’
Trosiad: Dan Jones 36’
Ciciau Cosb: Dan Jones 43’ 60’
.
Connacht
Cais: Eoghan Masteron 55’
Trosiad: Conor Fitzgerald 56’
Cic Gosb: Conor Fitzgerald 38’
Cerdyn Melyn: Tom Daly 43’