Munster 39–9 Dreigiau

Dechreuodd tymor arall yn y Guinness Pro14 yn siomedig i’r Dreigiau wrth iddynt golli’n drwm yn erbyn Munster ar Barc Thomond, Limerick, brynhawn Sadwrn.

Croesodd y tîm cartref am bump cais mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Er i bwyntiau cyntaf y gêm ddod o droed Sam Davies i’r Dreigiau, roedd hi’n argoeli i fod yn brynhawn hir pan hyrddiodd Arno Botha am gais cyntaf Munster wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae.

Dilynodd dau arall cyn yr egwyl, y cyntaf i Jack O’Donoghue a’r ail yn gais arbennig gan Shane Daly, yr asgellwr yn gorffen yn gelfydd gyda chic a chwrs i guro’r amddiffyn ar eu llinell pum medr eu hunain.

Sicrhaodd Tyler Bleyndaal y pwynt bonws gyda’r pedwerydd cais ar yr awr cyn i Diarmuld Barron sgorio pumed y tîm cartref yn y munudau olaf.

Teimlad o deja vu wrth i’r Dreigiau ddechrau tymor arall gyda cholled drom ond bydd gemau llawer haws i ddod na Munster oddi cartref.

.

Muntser

Ceisiau: Arno Botha 17’, Jack O’Donoghue 33’, Shane Daly 35’, Tyler Bleyndaal 60’, Diarmuld Barron 78’

Trosiadau: JJ Hanrahan 18’, 33’, 61’, 79’

Ciciau Cosb: JJ Hanrahan 25’, 43’

Cerdyn Melyn: Mike Haley 45’

.

Dreigiau

Ciciau Cosb: Sam Davies 3’, 29’, 39’

Cerdyn Melyn: Richard Hibbard 31’