Ulster 38–14 Gweilch

Colli fu hanes y Gweilch yn eu gêm gyntaf o’r tymor newydd yn y Guinness Pro14, oddi cartref yn erbyn Ulster yn Ravenhill nos Wener.

Ildiodd y Cymry bump cais wrth i’r tîm cartref sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws gyfforddus.

Dechreuodd pethau’n dda i’r Gweilch gyda chic gosb Luke Price yn agor y sgorio cyn i Dan Evans sgorio’r cais cyntaf yn dilyn rhediad unigol gwych o’r llinell hanner.

Ymatebodd Ulster yn syth serch hynny gyda chais da eu hunain, Craig Gilroy yn sgorio ar yr asgell yn dilyn cic letraws gywir Billy Burns.

Dilynodd dau gais arall i’r Gwyddelod cyn yr egwyl, un yr un i Greg Jones a Matt Faddes yn neg munud olaf yr hanner.

Cadwodd Price y Gweilch yn y gêm gyda dwy gic gosb arall, 21-14 y sgôr wrth droi.

Dechreuodd y gêm fynd o afael yr ymwelwyr yn yr ail hanner pan sicrhaodd Ulster y pwynt bonws gyda phedwerydd cais, Burns a Gilroy yn ail adrodd eu tric o’r hanner cyntaf, cic letraws gelfydd y maswr yn canfod yr asgellwr.

Cais cosb a oedd pumed y tîm cartref. Daeth hwnnw wyth munud o’r diwedd ac nid oedd ffordd yn ôl i’r Gweilch wedi hynny.

.

Ulster

Ceisiau: Caig Gilroy 14’, 51’ Greg Jones 31’, Matt Faddes 40’, Cais Cosb 72’

Trosiadau: John Cooney 14’, 32’, 40’, 51’

Cic Gosb: John Cooney 46’

.

Gweilch

Cais: Dan Evans 9’,

Ciciau Cosb: Luke Price 4’, 22’, 38’

Cerdyn Melyn: Luke Morgan 30’