Mae Dyddgu Hywel wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol er mwyn canolbwyntio ar ei gyrfa academaidd.

Enillodd Dyddgu Hywel, sy’n 30 oed, 31 o gapiau i Gymru.

“Mae gêm y merched yn tyfu bob blwyddyn, mae’r safon yn eithriadol ac mae hynny’n gofyn am fwy o ymroddiad,” meddai. “Er does gen i ddim ofn gwaith caled, mae fy swydd yn un sy’n gofyn llawer ac rwy’n gwneud PhD. Mae’n rhaid i mi ganolbwyntio mwy ar fy ngyrfa.”

Bydd Dyddgu Hywel yn parhau i chwarae i Gaerloyw-Hartpury.