Mae yna gynnwrf yn Japan ar drothwy cystadleuaeth Cwpan y Byd wrth i filoedd o bobol dyrru i weld sesiwn hyfforddi agoriadol Cymru.

Roedd ciwiau hir o gwmpas Stadiwm Kitakyushu heddiw (dydd Llun, Medi 16) yn disgwyl i garfan Cymru wneud taith fer o’i gwesty i’r stadiwm.

A hanner awr cyn i’r chwaraewyr gyrraedd, roedd yna awyrgylch trydanol o fewn y stadiwm, gyda nifer mawr o gefnogwyr yn gwisgo crys Cymru ac yn canu caneuon fel ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ a ‘Calon Lân’.

Wrth annerch cynulleidfa’r stadiwm – sy’n dal hyd at 15,000 – dywedodd cyn-gapten Cymru, Ryan Jones:

“Deunaw mis yn ôl, roedd gennym ni freuddwyd i droi’r ddinas hon yn goch. A’r wythnos hon, cyn gêm gyntaf Cwpan y Byd, rydym wedi gwireddu’r freuddwyd.”

Mae disgwyl i Gymru chwarae eu gêm gyntaf ar Fedi 23, pan fyddan nhw’n herio Georgia.