Mae S4C a’r BBC wedi cyhoeddi y bydd gemau tîm merched Cymru yn y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf yn fyw ar deledu neu ar-lein.

Bydd y merched yn croesawu’r Eidal, Ffrainc a’r Alban i Barc yr Arfau yng Nghaerdydd yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad flwyddyn nesaf.

Cafodd Merched Rygbi Cymru eu tymor gorau ers degawd y tymor diwethaf gan ennill dwy a chael un gêm gyfartal.

Dywed yr hyfforddwr Rowland Phillips: “Rydym yn hapus iawn gyda threfn y gemau’r tymor hwn. Mae’n grêt cael tair gêm gartref, yn enwedig yn ei gêm gyntaf ag olaf.”