Mae Ken Owens wedi cael ei ddewis yn gapten ar y Scarlets am y chweched tymor yn olynol.

Mae’r wythwr, 32, wedi cael ei ailbenodi gan brif hyfforddwr newydd y clwb rhanbarthol, Brad Mooar.

Mae Ken Owens wedi cynrychioli’r Scarlets ar y cae rygbi 243 o weithiau dros 13 tymor.

Cafodd ei benodi’n gapten am y tro cyntaf yn 2014, ac mae’n cael ei gymharu ag un o sêr y byd rygbi yn yr 1970au, Phil Bennet, a fu’n arwain Clwb Rygbi Llanelli rhwng 1973 a 1979.

Canmol Ken Owens

“Mae pawb dw i wedi siarad â nhw – yn chwaraewr, rheolwyr, staff a’r bwrdd – â meddwl mawr o Ken â’i allu i arwain,” meddai Brad Mooar.

“Mae wedi capteinio a chwarae dros y Llewod, ac wedi bod yn rhan o grŵp arweinwyr Cymru.

“Does dim dwywaith mai fe yw’r dyn cywir i arwain y tîm hwn, y clwb a’i bobol.”

Yr arweinwyr eraill

Mae James Davies, Jonathan Davies, Werner Kruger a Steff Hughes wedi cael eu penodi’n is-gapteiniaid.

Mae disgwyl i Werner Kruger a Steff Hughes gapteinio’r clwb tra bydd Ken Owens a Jonathan Davies i ffwrdd yn cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd.