Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud bod “hanner dwsin o lefydd ar gael” wrth iddo baratoi i enwi ei garfan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd am 2 o’r gloch heddiw (dydd Sul, Medi 1).

Mae’n dweud bod nifer o chwaraewyr “wedi codi’u dwylo” yn ystod y gemau paratoadol, tra bod eraill wedi “ateb nifer o gwestiynau” oedd gan y tîm hyfforddi amdanyn nhw.

Un pryder hwyr yw Corey Hill, oedd wedi torri ei goes yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon ddoe.

“Mae oddeutu hanner dwsin o lefydd, fwy na thebyg, sy’n cael eu trafod,” meddai’r prif hyfforddwr ar drothwy ei Gwpan y Byd olaf wrth y llyw.

“Ar wahân i hynny, rydyn ni’n eithaf cyfforddus gyda 24 neu 25 o chwaraewyr.”

Y garfan orau erioed?

Mae Warren Gatland yn dweud mai hon fydd y garfan orau i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd.

“Dw i’n meddwl mai hon yw’r garfan orau yn nhermau’r dyfnder sydd gyda ni.

“Os ydyn ni’n cael sawl anaf fel y gwnaethon ni yn 2015, yna dw i’n credu y gallen ni ymdopi gymaint gwell erbyn hyn.

“Y disgwyl yn fewnol gennym ni yw y byddwn ni’n siomedig iawn os na fyddwn ni’n cyrraedd rownd yr wyth olaf, a dyna’r cam cyntaf.

“Yna rydych chi’n wynebu pob gêm wrth iddyn nhw ddod.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi gor-gyflawni yn nhermau’r hyn rydyn ni wedi’i wneud dros y 12 mlynedd diwethaf.

“Ond dydyn ni ddim wedi gorffen eto.

“Os ydyn ni’n iawn yn feddyliol ac yn gorfforol, ry’n ni’n gallu curo unrhyw un yn y byd.

“Dw i wir yn credu y byddwn ni’n mynd ymhell yng Nghwpan y Byd y tro hwn.”

Rhoi gwybod i’r chwaraewyr

Tra bydd y cyhoedd yng Nghymru’n darganfod trwy gyhoeddiad swyddogol pwy sydd i mewn a phwy sydd allan o’r garfan, fe fydd y chwaraewyr llwyddiannus ac aflwyddiannus wedi cael gwybod yn yr oriau cyn hynny.

Bydd rhai yn derbyn galwad ffôn, eraill yn derbyn neges destun a rhai hefyd yn aros tan y cyhoeddiad swyddogol cyn cael gwybod eu tynged.

“Ry’n ni’n gwybod pa mor galed mae’r chwaraewyr wedi bod yn gweithio dros y 12 wythnos diwethaf a mwy, ac maen nhw wedi bod drwy lot fawr o boen yn nhermau eu hymdrechion wrth ymarfer a’r gwelliant wnaeth lot fawr ohonyn nhw yn y cyfnod hwnnw,” meddai Warren Gatland.

“Felly fe fydd yna drafod bywiog pan ddaw i ddewis y garfan derfynol, y niferoedd a’r safleoedd.

“Mae’r trafod yn parhau ynghylch a fyddwn ni’n mynd â phump neu chwe phrop, sawl chwaraewr ail reng, sawl chwaraewr rheng ôl, y cyfuniad o flaenwyr ac olwyr.

“Er ein bod ni’n eitha’ clir ein meddwl, does dim rheswm pam na all hynny newid ar y funud olaf.

“Fe fydd yna chwaraewyr siomedig ddydd Sul, a dw i’n gwybod hynny’n bersonol o 1991. Ches i ddim galwad ffôn ac roedd rhaid i fi wylio’r cyhoeddiad ar y teledu, a doedd fy enw ddim yn rhan o garfan y Crysau Duon i fynd i Gwpan y Byd.

“Dw i’n gwybod pa mor anodd fydd hi ar ôl profi hynny fel chwaraewr, ac fe fydd yr un mor anodd i fi wrth gyfleu’r negeseuon fel prif hyfforddwr.”