Bydd ffeinal un o gystadlaethau rygbi mwyaf Ewrop yn cael ei gynnal yng Nghymru’r flwyddyn nesaf.

Cystadleuaeth y  Guinness PRO14 2020 sydd dan sylw, ac mi fydd ei gêm derfynol yn cael ei chynnal yn Stadiwm Cardiff City ar Fehefin 20.

Ymhlith y timau a fydd yn chwarae mae’r Scarlets, Caeredin a Connacht; ac un o’r rheiny sydd wedi croesawu’r cyhoeddiad yw’r chwaraewr rygbi o Gymru, Sam Warburton.

“Wrth galon Cymru”

“Mae rygbi wastad wedi bod yn gamp sydd wrth galon Cymru,” meddai wrth pro14rugby.org, “ac mae cynnal digwyddiad rygbi o fri yn ein prifddinas yn hynod gyffrous.

“Dw i wedi gweld cwpwl o gemau yn Stadiwm Cardiff City, ac mae’r atmosffer yn medru bod yn rhyfeddol gyda’r crowd iawn.

“Pa bynnag timau fydd yn llwyddo’r rownd hwnnw, bydd y ffeinal yn grêt.”