Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn galw am “bersbectif” ar ôl i’w dîm godi i rif un ar restr detholion y byd ar ôl trechu Lloegr o 13-6 yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Awst 17).

Mae’r canlyniad hwnnw’n eu codi uwchlaw Seland Newydd, oedd wedi bod ar y brig ers degawd.

Dim ond 34 diwrnod sydd bellach cyn i Gwpan Rygbi’r Byd ddechrau yn Japan.

Ond mae Warren Gatland, sy’n rhoi’r gorau i’w swydd ar ôl y gystadleuaeth, yn dweud mai “dim ond rhif yw e”, a bod perfformio’n dda yng Nghwpan y Byd yn bwysicach.

“Mae’n anrhydedd braf i’w chael, ond y misoedd nesaf sy’n bwysig a chynnal hynny gyda pherfformiadau da yng Nghwpan y Byd, ac mae gyda ni gwpwl o gemau yn erbyn Iwerddon hefyd.

“Mae’n braf am ddiwrnod, ond fyddwn ni ddim yn gweiddi’n groch am y peth. Rhaid i ni gadw’r peth mewn persbectif.”

Y gêm

Dan Biggar oedd seren y gêm i Gymru, fydd yn mynd i Gwpan y Byd heb Gareth Anscombe, sydd wedi bod yn dechrau yng nghrys y maswr.

Mae’n rhoi cyfle i gyn-faswr y Gweilch, a giciodd drosiad a chic gosb i roi Cymru ar ben ffordd i arwain o 10-0 erbyn yr egwyl ar ôl i George North groesi am gais.

Roedd amheuon am ffitrwydd Dan Biggar hefyd, wrth iddo anafu ei ysgwydd ac fe fu’n rhaid iddo fe adael y cae ryw bum munud cyn diwedd y gêm.

Ciciodd George Ford ddwy gic gosb i Loegr, ond seliodd Leigh Halfpenny y fuddugoliaeth yn hwyr yn yr ornest gyda chic gosb arall.

Ar ôl y gêm, roedd Dan Biggar a Warren Gatland yn feirniadol o sylwadau’r cyn-chwaraewr JJ Williams, a ddywedodd na fydd Cymru’n ennill Cwpan y Byd gyda Dan Biggar yn safle’r maswr.