Mae capten tîm rygbi Cymru yn dweud fod gan y blaenasgellwr James Davies gyfle euraidd i gadw ei rediad gwych o gemau yn erbyn Lloegr ar ddydd Sadwrn (Awst 17).

Fe fydd James Davies yn dechrau yn yr un tîm a’i frawd Jonathan Davies wrth i Gymru geisio sicrhau’r 11eg fuddugoliaeth yn olynol yn Stadiwm y Principality Caerdydd ers Tachwedd 2017.

Dyma yw ail gêm gyfeillgar Cymru o flaen eu taith i Gwpan y Byd Siapan. Fe fydd tîm Warren Gatland yn gobeithio perfformio’n well ar ôl colli 33-19 yn erbyn Lloegr yn Twickenham dydd Sul diwethaf.

“Mae James [Davies] wedi cael trafferthion anafiadau ers chwarae Ariannin, ond mae ganddo gyfle ar y penwythnos i barhau â’r perfformiadau gwych mae o wedi’i dangos am gyfnodau hir yng nghrys y Scarlets,” meddai Alun Wyn Jones.

“Yn amlwg, mae yna ychydig o bedigri yno gyda’i frawd yn y canol. Mae James wedi bod yn sefyll allan mewn safle sydd wedi bod yn un cystadleuol iawn yng Nghymru ers amser maith. Mae wedi bod yn agos iawn ac wedi cael ei ddewis yn dilyn ei ymdrech.”

Byddai buddugoliaeth dydd Sadwrn yn gweld Cymru yn cymryd lle Seland Newydd ar frig rhestr gwledydd rygbi’r byd.

Tîm Cymru

Dan Biggar sydd yn dechrau’n safle’r maswr ar ôl i Gareth Anscombe gael anaf i’w ben-glin sy’n golygu na fyddai’n teithio i Gwpan y Byd.

Mae James Davies a Jake Ball yn cymryd lle Adam Beard a Justin Tipuric sydd ag anafiadau bychain ac mae Jarrod Evans yn cael y cyfle i fod yn eilydd i Dan Biggar o flaen Rhys Patchell.

Mae’r blaenasgellwr Josh Navidi hefyd yn dychwelyd i’r fainc ond nid oes lle i’r mewnwr Tomos Williams sydd wedi cael sgan ar ei ysgwydd.

Cymru – Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies, Nicky Smith, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones, Aaron Wainwright, James Davies, Ross Moriarty.

Lloegr – Daly; McConnochie, Joseph, Francis, Cokanasiga; Ford, Heinz; Genge, Cowan-Dickie, Cole, Launchbury, Itoje, Lawes, Ludlam, B Vunipola.