Mae carfan Cymru yn gobeithio rhoi “perfformiad  da” i’w cefnogwyr pan fyddan nhw’n mynd yn benben â Lloegr dros y penwythnos.

Dyna mae Prif Hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi ei ddweud ar drothwy’r gêm yng Nghaerdydd dydd Sadwrn (Awst 5).

Gêm i baratoi am gystadleuaeth Cwpan y Byd fydd hon, a daw wedi i Gymru golli yn erbyn yn Lloegr yn Llundain y penwythnos diwethaf.

“Roeddwn yn siomedig i golli’r penwythnos diwethaf,” meddai, “felly mae’n bwysig ein bod yn rhoi cynnig gwell arni ar dydd Sadwrn.

“Rhaid i ni wneud sioe dda ohoni o flaen Stadiwm Principality lawn. Mae’r garfan yn edrych ymlaen at ddychwelyd yno, a chymryd cam arall at Gwpan y Byd.”

Bydd cystadleuaeth Cwpan y Byd yn cael ei gynnal yn Japan rhwng Medi 20 a Thachwedd 2.

Tîm Cymru:

Liam Williams, George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies, Nicky Smith, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones, Aaron Wainwright, James Davies, Ross Moriarty

Ar y fainc

Elliot Dee, Wyn Jones, Dillon Lewis, Aaron Shingler, Josh Navidi, Aled Davies, Jarrod Evans, Owen Watkin