Mae asgellwr Cymru, George North, yn dweud bod dim math o banig yng ngwersyll ymarfer Cymru ar ôl colli i Loegr mewn gem gyfeillgar dydd Sul (Awst 11).

Roedd colli 33-19 yn Twickenham yn golygu bod tîm Warren Gatland wedi colli eu gem gyntaf ers mis Chwefror y llynedd, gan ddod a rhediad o 14 gem fuddugol olynol i ben.

Mae’n golygu nad yw Cymru wedi cymryd lle Seland Newydd ar frig rhestr gwledydd gorau’r byd.

Daeth ergyd arall i Gymru ddoe (dydd Llun, Awst 12) pan ddaeth y newyddion na fydd y maswr Gareth Anscombe yn teithio i Gwpan y Byd Siapan oherwydd anaf difrifol i’w ben-glin.

“Dim panig”

Ond mae George North yn hyderus yn ei gyd-chwaraewyr: “Dydan ni ddim mewn panig”.

“Dyma’r sefyllfa rydan ni ynddi,” meddai. “Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hynny ac mae gynnon ni wythnos i’w gael yn iawn ar gyfer y Prawf nesaf ac rydyn ni’n mynd eto.

“Dydach chi byth yn hoffi colli gemau, ond mae wedi ein rhoi mewn lle da i ganolbwyntio’n feddyliol a gweithio allan lle mae angen i ni fynd. Dyma bwrpas y gemau yma.

“Maen nhw’n caniatáu i ni chwarae’r gemau mawr yma, troi hynny o gwmpas a chwarae’r penwythnos wedyn i efelychu be’ sydd i ddod. Rydan ni’n dal i ymladd am ein lle yn y garfan, ac mae pob eiliad yn cyfri yn ystod yr wythnosau a’r gemau yma.”

Fe hawliodd George North ei 37fed cais mewn 84 gêm brawf i Gymru yn Twickenham ddydd Sul.