Mae tîm rygbi Cymru wedi colli o 33-19 yn erbyn Lloegr yn Twickenham.

Byddai buddugoliaeth wedi eu codi nhw i frig rhestr detholion y byd, uwchlaw Seland Newydd sydd wedi bod ar y brig ers degawd.

Roedd gan Loegr fantais o 21-7 erbyn yr egwyl, ac roedden nhw’n rhy gryf i’r Cymry, er iddyn nhw sgorio tri chais yr un.

Croesodd Billy Vunipola a Joe Cokanasiga yn ystod y chwarter awr agoriadol ac roedd Cymru’n cwrso am weddill y gêm, wrth i Luke Cowan-Dickie sgorio cais hefyd.

Pum pwynt yn unig oedd ynddi ar ôl i Wyn Jones a George North groesi i Gymru yn gynnar yn yr ail hanner. Daeth cais cynta’r Cymry gan Gareth Davies.

Ciciodd Gareth Anscombe drosiad cyn gadael y cae, a throsodd Dan Biggar unwaith hefyd, wrth i George Ford gicio tri throsiad a thair cic gosb, a sgoriodd Elliot Daly gôl adlam.