Matt Silva yw prif hyfforddwr newydd Rygbi Gogledd Cymru, ac fe fydd e hefyd yn cynorthwyo’r academi.

Fe fu’r cyn-chwaraewr i dîm ‘B’ Cymru a thîm rygbi’r gynghrair Cymru yn brif hyfforddwr Pen-y-bont ar Ogwr ers tair blynedd.

Mae ganddo fe lu o brofiad o hyfforddi, ac mae’n ymuno â thîm a enillodd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair ac a gipiodd y Gwpan yn 2017.

Fe fydd Latam Tawhai yn aros yn hyfforddwr amddiffyn, a Phil John yn parhau’n hyfforddwr y blaenwyr tan ddiwedd y tymor.

‘Her gyffrous iawn’

“Mae derbyn y rôl yn her fawr ond cyffrous iawn, ac alla i ddim aros i gael dechrau arni,” meddai Matt Silva.

“Mae’n allweddol fy mod i’n adnabod pawb sydd ynghlwm wrth Rygbi Gogledd Cymru, ac mae hefyd yn bwysig fy mod i’n mynd yn syth i mewn i’r paratoadau ar gyfer y tymor newydd fel y gallwn ni fwrw iddi ym mis Medi.

“Dw i am adeiladu ar waddol Mark Jones a holl gyn-hyfforddwyr RGC a gobeithio y bydd fy ngweithredoedd yn bwysicach na’m geiriau o ran ein rygbi ar y cae.”

Mae’n dweud mai ei flaenoriaeth yw gorffen ymhlith y chwe thîm gorau yn y gynghrair a chymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth draws-ffiniol.