Fydd Alun Wyn Jones ddim yn ymddeol am o leiaf dwy flynedd arall, wedi iddo ymestyn ei gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru a’r Gweilch.

Y gŵr, 33, sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol yn safle’r ail reng, sef 125 dros Gymru a naw dros y Llewod.

Y mis Mehefin, cafodd ei enwi yn chwaraewr rygbi gorau’r byd gan gylchgrawn Rugby World, a hynny wedi iddo arwain Cymru i fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddechrau’r flwyddyn.

“Dw i’n falch o gyhoeddi fy mod i wedi ymestyn fy nghytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru a’r Gweilch tan fis Mehefin 2021,” meddai Alun Wyn Jones.

“Ar ôl pendroni o ddifrif ac ystyried yr holl opsiynau, dyma’r penderfyniad cywir ar gyfer fy ngyrfa ar hyn o bryd, ac mae’n cyd-fynd â’m hamcanion ar y cae a thu hwnt, yn ogystal â chyd-fynd â lles ac anghenion fy nheulu.”