Fe fydd y Gweilch yn wynebu’r Saraseniaid, deiliaid Cwpan Pencampwyr Heineken, ynghyd â Munster a Racing 92 yn y gystadleuaeth y tymor nesaf.

Cyrhaeddodd Munster y rownd gyn-derfynol eleni, cyn colli yn erbyn y Saraseniaid.

Bydd y timau Cymreig eraill i gyd yn y Gwpan Her.

Bydd y Gleision yn yr un grŵp â Chaerlŷr, Pau a Calvisano.

Yng ngrŵp y Scarlets fydd Gwyddelod Llundain, Toulon a Bayonne.

Ac fe fydd y Dreigiau a’u hyfforddwr newydd Dean Ryan yn herio’i gyn-glwb Caerwrangon, Castres a Enisei-STM.

Bydd y gemau grwp yn y ddwy gystadleuaeth yn dechrau ganol mis Tachwedd, bythefnos ar ôl Cwpan y Byd.