Mae disgwyl i Warren Gatland gael ei enwi’n brif hyfforddwr y Llewod am y trydydd tro yn ei yrfa heddiw (dydd Mercher, Mehefin 12).

Bydd y gŵr, 55, o Seland Newydd, a fydd yn rhoi’r gorau i hyfforddi Cymru yn yr hydref, yn arwain y Llewod yn ystod eu taith i Dde Affrica yn 2021.

Mae wedi bod yn gyfrifol am y Llewod ar ddau achlysur hyd yn hyn, gan eu harwain i Awstralia yn 2013 a Seland Newydd ddwy flynedd yn ôl.

Mae disgwyl i’w benodiad am y trydydd tro gael ei gyhoeddi mewn cynhadledd i’r wasg yn Llundain.

Does dim sicrwydd eto ynglŷn â phryd fydd Warren Gatland yn cychwyn y swydd, ond mae disgwyl iddo gymryd cyfrifoldebau o fewn 10 mis i flwyddyn cyn y daith.