Fe fydd Warren Gatland yn hyfforddi’r Barbariaid yn erbyn Cymru yn ei gêm gyntaf ar ôl gadael y tîm cenedlaethol ar ôl Cwpan y Byd yn yr hydref.

Bydd yn gadael ei swydd ar ôl 12 o flynyddoedd wrth y llyw, ond yn dychwelyd i Stadiwm Principality ar gyfer yr ornest ar Dachwedd 30.

Hon hefyd fydd gêm gyntaf Wayne Pivac, sy’n olynu ei gydwladwr yn brif hyfforddwr Cymru.

“Does dim rhaid dweud fod gan y gêm hon gryn arwyddocâd i fi,” meddai Warren Gatland yn dilyn y cyhoeddiad.

“Cymru yw fy nghartref ers 12 o flnyddoedd, a dw i wedi mwynhau fy amser yma ma’s draw.

“Ry’n ni wedi cael cryn lwyddiant gyda Chymru, ac ry’n ni ar hyn o bryd yng nghanol blwyddyn bwysig dros ben, a fydd yn dod i ben gyda Chwpan y Byd.

“Mae cael y cyfle i ddychwelyd i Gaerdydd ar ôl Cwpan y Byd yn wych.”

‘Braint’

Mae disgwyl cadarnhad yr wythnos nesaf mai Warren Gatland fydd yn arwain y Llewod yn Ne Affrica yn 2021.

Ac mae’n dweud y bydd arwain y Barbariaid yn “fraint”.

“Maen nhw’n symbol o’r traddodiad rygbi gorau ac yn rhan bwysig o’r gêm ryngwladol, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o glwb y ‘Baa-baas’.”