Mae Mark Jones wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu fel prif hyfforddwr Rygbi Gogledd Cymru 1404 wedi tair blynedd wrth y llyw.

Fe arweiniodd y cyn-asgellwr a chyn-hyfforddwr cefnwyr Cymru y clwb rhanbarthol i’r Cwpan Cenedlaethol yn 2017, ac ar ddiwedd y tymor eleni fe gyrhaeddon nhw’r wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair.

Daw ymadawiad Mark Jones ar ôl i Rygbi Gogledd Cymru drechu Clwb Rygbi Caerdydd o 63 wynt i 24 yn eu gêm olaf o’r tymor dros y penwythnos.

“Fy ngorchest fwyaf oedd sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu creu ar gyfer y chwaraewyr,” meddai Mark Jones.

“Mae’r cefnogwyr wedi bod yn anhygoel i mi ac wedi cyd-sefyll â mi, boed mewn buddugoliaeth neu golled, yn ogystal â chwarae rhan fawr yn yr hyn rydyn ni wedi eu cyflawni.

“Mae yna syched am rygbi yng ngogledd Cymru, ac rydyn ni wedi cael y dorf fwyaf yn y gynghrair ac fe aethon ni â niferoedd mawr i’r Stadiwm Principality adeg ennill y cwpan.”

Mae cyd-gapten y clwb, Evan Yardley, hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ar ddiwedd y tymor, a hynny er mwyn ymuno â Chaerdydd.